
BA (HONS) GRAPHIC DESIGN
GRADUATE SHOW 2025
Introduction
Graphic Designers, with some exceptions of course, are not natural exhibitionists. We prefer the idea of our work doing the talking for us as we blend into the background. Visual communication, as the words suggest, often functions silently and anonymously, proving its success without need of explanation. However, this is no time for modesty. It is a time to see and be seen, to show one's colours and to celebrate the uniqueness of each voice in the choir.
Anyone who recalls their early attempts at mixing different colours of paint will probably recall the bland greyness of the end result. The twenty individuals represented here display a mixture of projects reflecting a colour palette ranging from soft and subtle to brash and bold. You will see a mixture of the quirky, the questioning and the commercial, but even when blended together, the group dynamic becomes a bright, vibrant, ambitious orange shouting out proudly.
Staff team
BA(Hons) Graphic Design
Cyflwyniad
Nid yw Dylunwyr Graffig, gyda rhai eithriadau wrth gwrs, yn ymorchestwyr wrth reddf. Mae’n well gennym y syniad y bydd ein gwaith yn siarad drosom ni wrth i ni ymdoddi i’r cefndir. Yn aml mae cyfathrebu gweledol, fel y mae’r geiriau’n ei awgrymu, yn gweithredu’n dawel ac yn ddienw, gan brofi’i lwyddiant heb angen esboniad. Fodd bynnag, nid dyma’r amser i fod yn ddiymhongar. Mae’n amser gweld a chael eich gweld, arddangos eich lliwiau a dathlu natur unigryw pob llais yn y côr.
Bydd unrhyw un sy’n cofio’i ymdrechion cynnar i gymysgu gwahanol liwiau o baent yn cofio, yn fwy na thebyg, lwydni di-ffrwt y canlyniad terfynol. Mae’r ugain unigolyn sydd wedi’u cynrychioli yma’n arddangos cymysgedd o brosiectau sy’n adlewyrchu palet lliwiau sy’n amrywio o’r meddal a’r cynnil i’r haerllug a’r beiddgar. Cewch weld cymysgedd o’r mympwyol, yr ymholgar a’r masnachol, ond hyd yn oed o’u cyfuno â’i gilydd, daw deinameg y grŵp yn lliw oren llachar, bywiog, uchelgeisiol sy’n galw allan yn benuchel.
Tîm y Staff
BA(Anrh) Dylunio Graffig
MEET THE
